Dod o hyd i ddarnau penodol o Gyfraith Hywel
Dyma ganllawiau ar sut i ddefnyddio'r mynegeion yn bennaf.
• Chwilio am ddisgrifiadau o'r llawysgrifau cyfraith?
Ceir y rhain yma.
• Eisiau gweld beth sydd mewn llawysgrif benodol?
Dylid mynd at y mynegeion, dewis y llawysgrif, a hidlo.
• Eisiau dod o hyd i ddarn penodol o'r gyfraith?
Mae modd dewis rhan neu adran o'r dewislenni ar gyfer y mynegeion, neu chwilio trwy gynnig gair yn y blwch.
• Wedi dod o hyd i ddarn penodol ac eisiau gweld ble arall mae'n ymddangos?
Mae modd dewis y rhan neu'r adran, a rhestru'r canlyniadau - dylai hyn ddangos ymhle y mae'r darn neu ddarn tebyg iddo yn ymddangos.
Os nad ydych yn gwybod beth yw'r allweddair, mae modd dod o hyd i'r darn mewn llawysgrif unigol, ac yna chwilio eto gan ddefnyddio'r allweddair.
• Wedi dod o hyd i ddarn yn Ancient Laws?
Mae yna daflenni pdf yn dangos tarddiad cynnwys AL yma. Gellir troi at y mynegeion wedyn.
Yn y mynegeion, mae modd clicio ar y ddolen a gweld y dudalen o AL.
• A yw'r darn yn dod o lawysgrifau Z, S, H neu Lladin C?
Mae testunau golygedig o'r llawysgrifau hynny ar gael fel pdfs, yma.
• Y darn yn dod o'r damweiniau?
Mae cronfa ar wahân ar gyfer y damweiniau, a chanllaw defnyddwyr yma.